Paroles Diwrnod Marchnad de Brigyn

Brigyn
  • 0.0Vous n'aimez pas les paroles de Brigynloading
  • Note 0.0/5 basée sur 0 avis.
  • Artiste: Brigyn50344
  • Chanson: Diwrnod Marchnad
  • Langue:

Les chansons similaires

Y Teimlad de Super Furry Animals

Y teimlad sy'n gyrru bobol i anghofio amser The feeling that makes people forget time Y teimlad sy'n gyrru ti i feddwl nad yw'r dyfodol mor fler The feeling that makes you think the future isn't so bad Y...

Anna Apera de Gorky's Zygotic Mynci

Eisteddodd Anna ar y traethGyda siwt nofio piws Uncle HarryGyda poced bach yn y cefnPoced bach yn y cefn am hufen ia a pethau fellyDyma'r dyddiau chi'n cofio trwy'r gaeafDyma'r unig dyddiau sy'n cadw...

Cariad Dwi'n Unig de Duffy

Cariad Dwi'n unig heno A ble wyt ti nawr? Cariad Dwi'n unig heno ga I cwrdd a ti Wrth y wawr? Cyffwrdd Sydd mor syml Sy'n cadw fi Fynd drost y cwmwl Cyffwrdd Sydd mor syml Sy'n cadw fi fynd Aros yma fwy Aros...

Dacw Hi de Super Furry Animals

Dacw hi, a'i gwyneb mewn poen There she is, her face screwed up in pain Mae hi newydd gael ei phigo gan byr ar ei chroen She's just been stung by a bee on her skin Mae'n gafael mewn papur cyfagos a'i daro...

Ambell Waith de Gruff Rhys

Codi'n fore i osgoi'r lli, Moduro'n gyflym i bendraw'r byd. Deffro'n fore mewn dinas bell, Cynefino mewn cwmwl saethug. Pen y daith, Hiraeth, Ambell waith. Llygru'r moroedd gwyrddion llawn pysgod prin,...

Textes et Paroles de Diwrnod Marchnad



Mae'n fore llwm, mae'n glawio'n drwm
Ond codi sydd rhaid, ac wynebu'r byd sydd o mlaen
Awyr lwyd, y bws yn hwyr
Fy nghroen ar dân, wedi i mi siafio'n groes i'r graen

Dwi'n teimlo'n hun yn baglu, ac yn methu sefyll fyny
A dwi'n cael fy amgylchynu gan y cannoedd sy'n mynd a dod.
Yr un yw'r bwrlwm eto, fydd o drosodd erbyn heno -
Bydd y stwff ma i gyd, mewn pryd, yn bell o fy nghof.

Mae'n ddiwrnod marchnad ac mae pob man yn agored
Dwi'n cerdded lawr y stryd - prin dwi'n gweld fy nhraed
Mae'n ddiwrnod marchnad, ac mae'n anodd clwad
Mae'r lleisiau yn bargeinio, a'r ceiniogau yn seinio i dôn fyddarol eu gwaedd.

Mae bywyd yn braf, er nad yw byth yn rhwydd
Mae bywyd i fyw, er gwaetha yr holl lwyth
Y cwmni'n gyfarwydd, ond pob wyneb yn ddiarth
yn estyn am y peth agosaf o unrhyw werth

Dwi'n teimlo'n hun yn baglu, ac yn methu sefyll fyny
A dwi'n cael fy amgylchynu gan y cannoedd sy'n mynd a dod.
Yr un yw'r bwrlwm eto, fydd o drosodd erbyn heno -
Bydd y stwff ma i gyd, mewn pryd, yn bell o fy nghof.

Mae'n ddiwrnod marchnad ac mae pob man yn agored
Dwi'n cerdded lawr y stryd - prin dwi'n gweld fy nhraed
Mae'n ddiwrnod marchnad, ac mae'n anodd clwad
Mae'r lleisiau yn bargeinio, a'r ceiniogau yn seinio...

Mae'n ddiwrnod marchnad, ac mae'n amser paned
Dyma'r lle, sy'n gwerthu'r te gorau yn y byd
Mae'n ddiwrnod marchnad ac yn yr holl brysurdeb
Ti'n gweld dy hun yn rhan o'r llun...
yn rhan o'r llun... yn rhan o'r llun... yn rhan o'r llun.

N'hésitez pas à faire une recherche de paroles d'une chanson dont vous ne connaissez qu'un morceau de texte avec notre moteur de paroles et chansons