Paroles Pioden de Brigyn

Brigyn
  • 0.0Vous n'aimez pas les paroles de Brigynloading
  • Note 0.0/5 basée sur 0 avis.
  • Artiste: Brigyn50344
  • Chanson: Pioden
  • Langue:

Les chansons similaires

Tu ôl i'r wên de Brigyn

Tu ôl i'r wên, ti'n dawel yno'n cuddio A minnau'n gobeithio dy fod ti'n edrych arna i Tu ôl i'r wên, mae'r teimlad ynai'n cydio ond dydw i 'mond yn twyllo'n hun, wrth ddiflanu i fy nghysgod du Tu...

Subbuteo de Brigyn

Ar flaen ei fys y mae, yr awydd mwya am y cyffyrddiad perffaith Ar flaen ei fys y mae, yr unig ymgais yr un uchelgais Ar flaen dy fys y mae, gofal, llwyddiant, y wefr, a'i haeddiant Ar flaen dy fys y mae,...

Allwedd de Brigyn

Mae na allwedd i agor y drws Mae na allwedd i agor bocsus Mae na allweddi mawr ac allweddi bach Mae na allwedd sy'n cadw dy arian yn saff Mae na allwedd i danio'r car Mae na allwedd i danio'r cariad Mae...

Y Sgwar de Brigyn

Amser prin, ond digon hir i ddylanwadu Bron yn ddim, ond yn rhoi i gyd yr hyn a allai Talu'n ddrud, roedd y cyfan yn ei waed Gorau'r byd, cario'i faich yn enw ei wlad Cam wrth gam, dringo'n uwch fesul...

Seren de Brigyn

Ma siwr ti'm isio hyn, rhyw gwyno ar gân o lais hogyn, ti'm am glywed, ond wedyn, mae nagrau i'n llenwi llyn. Oedd hi'n anodd iawn heno, yn y nos efo neb i wrando, a dod draw oedd rhaid am dro, dod atat...

Textes et Paroles de Pioden



Gwyn a du, a ddylwn i, droi yn fy unfan i'th gyfarch di?
Dy gân yn fy swyno, dy ddawns ysgafn droed
Dy wên yn un ddoniol, tra'n chwarae yn y coed


Mi goda i fy llaw cyn symud mlaen ar fy nhaith
Mi gollais i'r cyfle i gloi ar fy ôl, lawer gwaith


Yn yr ardd, aderyn hardd
Dy wisg yn fy hudo, a'm eiddo yn temtio
Creadur craff, 's neb yn saff
Tra?n edrych mor ffyddlon, ti'n bwydo'r amheuon
Ac ysu am drysorau cain


Du a gwyn, ti'n methu dim, manteisio ar unrhyw gyfle prin
Fy ffenest ar agor, edrychaist o'r gwair
Cymeraist dy gyfle i gipio'r aur


Mi godaist fy ngobeithion a'u tynnu i lawr mewn dim
Mi gollais i'r cyfan i leidr a oedd mor chwim


Yn yr ardd, aderyn hardd
Dy wisg yn fy hudo, a'm eiddo yn temtio
Creadur craff, 's neb yn saff
Siom yw darganfod fod gen ti arferion cas


Pioden wen, pioden ddu, meddal yw dy feddwl di
Pioden wen, pioden ddu, paid â thrio'n twyllo ni
Pioden wen, pioden ddu, cyfrwys yw dy gynllun di
Pioden wen, pioden ddu, paid â thrio'n twyllo ni
Pioden wen, pioden ddu, dial ar ein gwendid ni
Pioden wen, pioden ddu, paid â thrio'n twyllo ni

N'hésitez pas à faire une recherche de paroles d'une chanson dont vous ne connaissez qu'un morceau de texte avec notre moteur de paroles et chansons